Diogelwch Tân :: Deunyddiau ategol ar gyfer sefydliadauBoed oherwydd ymddygiad neu amgylchidau, mae rhai grwpiau mewn mwy o berygl o dân yn y cartref.Mae llawer o'r grwpiau hyn yn hysbys i asiantaethau a sefydliadau yn y gymuned, ac mewn cysylltiad â hwy. Mae’r deunyddiau hyn wedi eu hanelu at sefydliadau a’r cleientiaid y maent yn eu cefnogi. Cliciwch ddolen i lawrlwytho. Mae copïau caled hefyd ar gael – cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth Cymorth i Wella Diogelwch Tân eich Cleientiaid - Arweniniad a Chyngor 2010 Mae'r daflen hon wedi cael ei chynllunio ar gyfer gweithwyr a staff cefnogol sy'n ymweld â chartref cleieintiaid sydd wedi cael eu hadnabod, trwy ymchwil, yn rhai sy'n fwy agored i dân yn eu cartref. Rhestr Diogelwch Tân Cynghorion sylfaenol ar ddiogelwch tân y gellid annog eich cleient i’w dilyn fel eu bod yn fwy diogel gartref. Ffurflen Atgyfeirio Cleientiaid Gellir defnyddio'r ffurflen hon i gofnodi manylion cleient yr ydych yn dymuno ei atgyfeirio i gael Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref. Ar y ffurflen, gellir nodi manylion ychwanegol ynglyn [^ on second y] ag amgylchiadau neu gyflyrau penodol y cleient, a bydd hynny'n gymorth i'r Gwasanaethau Tân wrth baratoi ar gyfer yr archwiliadau. Gellir atgyfeirio trwy ddefnyddio'r ffurflen atgyfeirio ar-lein, trwy ffacsio'r ffurflen hon i Atal Tân neu trwy ffonio. Gellir atgyfeirio hefyd yn uniongyrchol i'r Gwasanaethau Tân rhanbarthol. Os byddwch yn ffacsio'r ffurflen, cofiwch nodi pwy y dylai'r Gwasanaeth Tân gysylltu â nhw er mwyn trefnu'r archwiliad e.e. gweithiwr achos neu aelod o'r teulu, oherwydd fe allai fod yn amhriodol cysylltu â'r cleient yn uniongyrchol. |
|