Ynglyn ag Atal Tân :: Recriwtio YmddiriedolwyrAtal Tân Cymru yw Elusen Diogelwch Tân Cymunedol Cymru. Ein cenhadaeth yw gostwng nifer y marwolaethau ac anafiadau oherwydd tanau trwy godi ymwybyddiaeth am y peryglon, darparu gwybodaeth am ddiogelwch, hybu ymchwil i ddiogelwch tân, ac annog cydweithredu rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, a hynny er mwyn gwneud Cymru’n wlad fwy diogel. Rydym wrthi’n ceisio adeiladu ar yr arbenigedd cyfredol trwy benodi hyd at 6 o unigolion ymroddgar i fod yn Ymddiredolwyr. Y Bwrdd sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am berfformiad yr Elusen, ac mae’n ymwneud yn bennaf â strategaeth, llywodraethiant, adnoddau dynol a throsolwg ariannol. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn:
Mae croeso arbennig gan rai sydd â phrofiad ym meysydd cyllid, y sector gwirfoddol, gofal iechyd a chymdeithasol, marchnata a diogelwch cymunedol. Rydym yn awyddus iawn i gael Bwrdd Ymddiriedolwyr sy’n amrywiol, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r cymuned. Mae Atal Tân Cymru yn sefydliad sy'n gweithredu trwy Gymru gyfan. Ar hyn o bryd, mae gennym gynrychiolaeth o bob rhan o'r wlad, ac rydym yn cylchdroi cyfarfodydd yr ym ddiriedolwyr o gwmpas y rhanbarthau. Gwahoddwn geisiadau o bob rhan o Gymru. Ni roddir tâl i Ymddiriedolwyr, ond telir costau teithio a threuliau. |
|