Diogelwch Tân :: Archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref
 Galwch nawr i gael Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref am ddim.
Pob blwyddyn, mae diffoddwyr tân Cymru yn cael eu galw at dros 2,000 o danau damweiniol yn y cartref. Gall y rhan fwyaf o bobl wneud newidiadau bychain o gwmpas y tŷ neu i’w harferion bob-dydd er mwyn lleihau’r perygl o dân damweiniol.
Trwy ffonio 0800 169 1234 gallwch drefnu i gynrychiolydd o’ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol ddod draw i’ch cartref. Yn ystod yr ymweliad, byddant yn gallu rhoi cyngor am yr hyn i’w wneud petai yna dân, ac awgrymu cynlluniau dianc ar gyfer eich cartref. Gallwch hefyd gael cyngor am bethau fel diogelwch wrth goginio ac ysmygu. Yn bwysicaf oll, os nad oes gennych larymau mwg, fe gewch chi rai am ddim.
Gall unrhyw gartref wneud cais ar-lein i gael archwiliad diogelwch tân yn y cartref gan eich gwasanaeth tân lleol. Cliciwch ar yr ardal i gael eich ailgyfeirio (os nad ydych yn siŵr ym mha ardal yr ydych, edrychwch ar y gwefannau perthnasol): De Cymru Gorllewin a Canolbarth Cymru Gogledd Cymru
Cliciwch yma i weld taflenni gwybodaeth Fflach Tân yn Gymraeg a Saesneg. Ar gyfer ieithoedd eraill, cliciwch yma
Pam dylwn i gael Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref am ddim?
Cyffredinol ydi’r cynghorion diogelwch tân sydd ar y wefan hon. Gan fod pob cartref yn wahanol, efallai fod peryglon neu anghenion penodol yn eich cartref chi, e.e. efallai fod rhywun yn ysmygu neu efallai fod gennych blant bach, neu bobl oedrannus neu anabl yn byw gyda chi.
Trwy fanteisio ar yr Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref, byddwch yn dod gam yn nes at wneud eich cartref a’ch teulu mor ddiogel ag y gallant fod.
Mae’r Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref yn rhad ac am ddim, a bydd yn cael ei drefnu ar adeg sydd fwyaf cyfleus i chi a’ch teulu.
Video's i'w llawrlwytho
Iawn, ond sut allaf fi drefnu Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref am ddim?
Trwy ffonio’r rhif rhadffon* cenedlaethol, sef 0800 169 1234, byddwch yn cael eich cysylltu â’ch gwasanaeth tân ac achub lleol. Gan ddibynnu ar eich ardal, bydd gofyn i chi naill ai roi eich manylion i aelod o staff neu i wasanaeth ateb awtomatig. Bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl i drefnu’r Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref, mae mor hawdd â hynny!
Bydd eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol yn gwneud eu gorau i gynnal yr Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref cyn gynted ag y bo modd. Ond, oherwydd bod nifer uchel o alwadau ar hyn o bryd, efallai y bydd raid aros ychydig yn hwy.
Felly, pwy fydd yn dod draw?
Cynrychiolydd o’ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol fydd yn dod draw. Wrth gwrs, os byddant yn cael eu galw at argyfwng, efallai y bydd angen aildrefnu’r Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref.
Ni fydd yr Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref yn arwain at alwadau ffôn neu bost diofyn.
Beth fydd yn digwydd?
Yn ystod yr Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref, bydd anghenion eich teulu yn cael eu hasesu a bydd unrhyw beryglon yn cael eu nodi a byddwch yn cael cynghorion sy’n benodol i chi. Os nad oes gennych larymau mwg, bydd rhai yn cael eu gosod am ddim.
Dim ond rhyw 30 munud fydd yr Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref yn ei bara, dyna bris bychan i’w dalu am dawelwch meddwl.
*Efallai y bydd galwadau o ffonau symudol yn costio cyfradd sefydlog y rhwydwaith, felly gwiriwch gyda darparwr eich rhwydwaith
|