Firebrake Wales Home Page

Diogelwch Tân :: Diogelwch Tân yn y Gwaith

Newidiodd y gyfraith diogelwch tân yn Hydref 2006 yn sgil cyflwyno Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Diddymwyd y gofyniad i fusnesau feddu ar dystysgrifau tân ac nid yw’r tystysgrifau a oedd ganddynt gynt yn ddilys erbyn hyn.

O dan y Gorchymyn, rhaid i’r person cyfrifol gynnal asesiad risgiau tân a gweithredu a chynnal cynllun rheoli tân. Mae mwy o wybodaeth am yr hyn y mae angen i chi ei wneud wrth gynnal asesiad risgiau tân ar gael yn y rhestr gyfeirio 5 cam ar gyfer asesu’r risg o dân.

Yn ogystal, mae cyngor a chanllawiau manylach ar weithredu cynllun rheoli risgiau tân ar gael yn y gyfres o ddogfennau cyfarwyddyd sydd ar gael yma.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth

Chwilio

 

Datganiad Hygyrchedd - Polisi Preifatrwydd (pdf) - Telerau Defnyddio'r Wefan (pdf) 
Atal Tân Cymru (Ymddiriedolaeth Diogelwch Tân Cymunedol Cymru Cyf) Rhif Cofrestru Elusen 1100964 Cwmni Cyfyngedig trwy Warant yng Nghymru 4556865

Valid CSS!