Firebrake Wales Home Page

Ein gwaith :: Ar grwydr

Cynhadledd Fire Risk in Europe (21/22.06.10)

Yr wythnos hon, cynhaliwyd Cynhadledd Fire Risk in Europe 2010 yn Newcastle. Trefnwyd y digwyddiad gan Wasanaeth Tân ac Achub Northumberland ar y cyd â phartneriaid prosiect ANSFR (Accidental, Natural and Social Fire Risk Assessment and Management) o Ddenmarc, yr Eidal a’r Ffindir.    

Roedd Atal Tân Cymru, Elusen Diogelwch Tân Cymru, yn falch o fod yn un o’r 12 o sefydliadau a ddewiswyd i arddangos eu gwaith ar ffurf poster yn y gynhadledd. Roedd y poster yn cyflwyno trosolwg o’r sefydliad, sy’n unigryw yng Nghymru ac ym Mhrydain, ynghyd â rhai o ganfyddiadau eu hymchwil diweddar i risg tân ymysg grwpiau sy’n agored i beryglon, sef grwpiau sy’n aml yn cael eu gorgynrychioli mewn ystadegau anafusion tân.
Cliciwch i lawrlwytho'r datganiad i'r wasg
Cliciwch i weld ein cyflwyniad poster (Saesneg yn unig)

 

Fideo Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref (19.08.09)

Mae Atal Tân wedi comisiynu fideo newydd ar yr Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref, er mwyn dangos yn fras beth sy'n digwydd yn ystod yr archwiliad, a pham ei bod yn bwysig ichi gael larymau mwg a gofalu amdanynt. Dyma luniau a dynnwyd yn ystod y cyfnod ffilmio.

img21

Lansio'r Byw'n Ddi-fwg (29.05.09)

Nod y Prosiect Byw'n Ddi-fwg yw lleihau'r risg y mae ysmygu?n ei achosi i iechyd, yr amgylchedd, plant, a thân yn y cartref, a hynny trwy leihau'r lefel o ysmygu yn y cartref.

Cafodd Prosiect ei lansio'n llwyddiannus ym Mhencadlys Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin yn Nhreforys ar Fai 29ain. Roedd yno tua 30 o westeion, yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Gwladol, y Gwasanaethau Tân yng Nghymru a'r Cynulliad. Roedd y siaradwyr yn cynnwys Kim Smith (Atal Tân Cymru), Tanya Buchanan (ASH Cymru), Dr Brian Gibbons a'r Dirprwy Brif Swyddog Phil Coleman.

Dolen i dudalennau Byw'n Ddi-fwg
Datganiad i'r Wasg Lansiad Byw'n Ddi-fwg

img33

Chwilio

 

Accessibility Statement - Privacy Policy (pdf) - Terms of Use (pdf) - Data Protection Notice
Firebrake Wales (Wales Community Fire Safety Trust Ltd) Registered Charity Number 1100964 Company Limited by Guarantee 4556865

Valid CSS!