Firebrake Wales Home Page

Ein gwaith :: Prosiectau

Care & Repair Cymru


 


Nod y bartneriaeth rhwng Atal Tân Cymru a Gofal a Thrwsio Cymru yw rhannu gwybodaeth a syniadau a fydd yn gwella diogelwch a lles pobl hŷn, ac annog datblygu partneriaethau cyflwyno gwasanaethau rhwng yr Asiantaethau Gofal a Thrwsio a’r Gwasanaethau Tân ac Achub sydd wedi eu hanelu at leihau’r perygl o dân yng nghartrefi pobl hŷn yng Nghymru.

Deall Potensial Partneriaethau a Phartneriaethu

Yn 2009, fe gynhaliodd Atal Tân arolwg fanwl o bob un o'r 22 o Asiantaethau Gofal a Thrwsio yng Nghymru. Nod yr arolwg oedd cael gwybod beth yw’r sefyllfa bresennol o ran gwaith mewn partneriaeth rhwng yr Asiantaethau Gofal a Thrwsio a’r Gwasanaeth Tân ac Achub trwy Gymru. Yna, nodi gwybodaeth, syniadau a chyfleoedd i wella diogelwch a lles pobl hŷn trwy ddatblygu partneriaethau cyflwyno gwasanaethau rhwng yr Asiantaethau Gofal a Thrwsio a’r Gwasanaeth Tân ac Achub.
Cliciwch yma i weld yr adroddiad llawn

Byw'n Ddi-fwg


 


Nod y prosiect Byw'n Ddi-fwg yw lleihau'r peryglon y mae ysmygu yn y cartref yn eu creu i iechyd, yr amgylchedd, plant ac anifeiliaid anwes. Caiff y prosiect ei gyflwyno trwy bartneriaeth rhwng Atal Tân ac ASH Cymru (Action on Smoking and Health) gyda chefnogaeth y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru.

Cliciwch yma i ddarllen am y Gwerthusiad o Gam 1

Chwilio

 

Accessibility Statement - Privacy Policy (pdf) - Terms of Use (pdf) - Data Protection Notice
Firebrake Wales (Wales Community Fire Safety Trust Ltd) Registered Charity Number 1100964 Company Limited by Guarantee 4556865

Valid CSS!