Firebrake Wales Home Page

Ymchwil :: Ymchwil Atal Tân

Ymchwil yn Atal Tân

Felly, mae’n un o amcanion allweddol Atal Tân i hyrwyddo arferion yn seiliedig ar dystiolaeth yn y gwaith atal tân a diogelwch tân yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy arwain a chynnal ymchwil sylfaenol, yn ogystal â thrwy ledaenu gwybodaeth am ymchwil berthnasol arall ym maes diogelwch tân, a hynny o Gymru, Gwledydd Prydain a thu hwnt.

Mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru eisoes yn defnyddio eu dulliau eu hunain i dargedu eu hymyriadau diogelwch tân yn eu hardaloedd. Mae Atal Tân yn cefnogi hyn trwy gynnal ymchwil trwy Gymru i gyd, gan ein gosod mewn lle unigryw o allu rhoi persbectif Cymreig i waith ymchwil ym maes diogelwch tân.

Mae tystiolaeth ymchwil ddiweddar wedi dangos yn eglur pa fanteision y gellir eu cael o ganlyniad o gydweithio agosach rhwng y Gwasanaethau Tân ac Achub a'r mudiadau cymunedol sy'n gweithio ar gyfer/gyda'r bobl sydd fwyaf mewn perygl o dân. Bydd Atal Tân yn cynnal ymchwil i’r ffyrdd y gall y partneriaethau hyn fod fwyaf effeithiol, a phwy yw’r partneriaid gorau i gyrraedd y cymunedau sy’n agored i berygl a/neu sydd fwyaf anodd eu cyrraedd.

Ymchwil ymysg Timau Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol a Chymdeithasau Mind Lleol

Cefndir a Throsolwg (Saesneg yn unig)

Roedd Cam Un yn canolbwyntio ar ymchwil i bartneriaethau posib gydag asiantaethau/timau cefnogi
Adroddiad Cam Un - Timau Cyffuriau ac Alcohol (Saesneg yn unig) (pdf, 480kb)
Adroddiad Cam Un - Cymdeithasau Mind (Saesneg yn unig) (pdf, 520kb)

Roedd Cam Dau yn canolbwyntio ar safbwynt defnyddwyr y gwasanaethau
Adroddiad Cam Dau - Cymdeithiasau Mind (Saesneg yn unig) (pdf, 392kb)
Addrodiad Cam Dau - Camddefnyddwyr Cyffuriau ac Alcohol (Saesneg yn unig) (pdf, 396kb)

Adroddiad Diogelwch Tân gan Atal Tân Cymru

Mae'r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd yr ymchwil a'r wybodaeth ddiweddaraf sy'n berthnasol i ddiogelwch tân cymunedol, yn enwedig yr hyn sy'n ymwneud â thanau damweiniol yn y cartref.

Yn bwysicach na hynny efallai, mae'r adroddiad yn rhoi pennod gyfan i bartneriaethau, gan dynnu sylw at y manteision a ddaw o weithio mewn partneriaeth, a'r modd y gellid gwneud hynny er mwyn bod mor llwyddiannus â phosib.

Adroddiad Diogelwch Tân gan Atal Tân Cymru 2009 (PDF, 1.4MB)
Adroddiad Diogelwch Tân gan Atal Tân Cymru 2009 - Crynodeb Gweithredol (PDF, 159KB)

Care & Repair Cymru - Deall Potensial Partneriaethau a Phartneriaethau

Yn 2009, fe gynhaliodd Atal Tân arolwg fanwl o bob un o'r 22 o Asiantaethau Gofal a Thrwsio yng Nghymru. Nod yr arolwg oedd cael gwybod beth yw’r sefyllfa bresennol o ran gwaith mewn partneriaeth rhwng yr Asiantaethau Gofal a Thrwsio a’r Gwasanaeth Tân ac Achub trwy Gymru. Yna, nodi gwybodaeth, syniadau a chyfleoedd i wella diogelwch a lles pobl hŷn trwy ddatblygu partneriaethau cyflwyno gwasanaethau rhwng yr Asiantaethau Gofal a Thrwsio a’r Gwasanaeth Tân ac Achub.

Arolwg o Asiantaethau Gofal a Thrwsio yng Nghymru: Deall Potensial Partneriaethau a Phartneriaethau - Mai 2009 (PDF, 265KB)

Byw'n Ddi-fwg

Nod y prosiect Byw'n Ddi-fwg yw lleihau'r peryglon y mae ysmygu yn y cartref yn eu creu i iechyd, yr amgylchedd, plant ac anifeiliaid anwes. Caiff y prosiect ei gyflwyno trwy bartneriaeth rhwng Atal Tân ac ASH Cymru (Action on Smoking and Health) gyda chefnogaeth y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru.

Cliciwch yma i ddarllen am y Gwerthusiad o Gam 1 (PDF, 292 KB)

image placeholder

Chwilio

 

Datganiad Hygyrchedd - Polisi Preifatrwydd (pdf) - Telerau Defnyddio'r Wefan (pdf) 
Atal Tân Cymru (Ymddiriedolaeth Diogelwch Tân Cymunedol Cymru Cyf) Rhif Cofrestru Elusen 1100964 Cwmni Cyfyngedig trwy Warant yng Nghymru 4556865

Valid CSS!