Firebrake Wales Home Page

Ymchwil :: Swyddogaeth Ymchwil

Rôl ymchwil wrth wella diogelwch tân

Yn ffodus, mae nifer y bobl yng Nghymru sy’n dioddef anafiadau a marwolaeth mewn tanau yn y cartref, wedi gostwng dros amser. Mae’r siart isod yn dangos y tueddiad hwn o ran tanau damweiniol mewn cartrefi rhwng 1999 a 2006 (Ffynhonnell:Llywodraeth y Cynulliad, Ystadegau Cyfiawnder Diogelwch Cymunedol, , o ddata’r Gwasanaethau Tân ac Achub).

Yn gyrru’r tueddiad hwn i raddau helaeth, mae’r pwyslais cynyddol y mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub yn ei roi ar ddarparu cyngor i gymunedau ynghylch ffyrdd y gallant leihau’r risg o dân, a thrwy osod miloedd ar filoedd o larymau mwg mewn cartrefi trwy Gymru. Fodd bynnag, mae mwy eto i’w wneud i atal rhagor o anafiadau a marwolaethau – a gall tystiolaeth ymchwil fod yn gymorth i gefnogi cyfeiriad, targedau a chynnwys mentrau diogelwch tân pellach.

At hynny, mae ymchwil (ar ffurf gwerthuso manwl) yn gallu bod yn sail i benderfynu pa fentrau ac ymyriadau sy’n gweithio orau er mwyn cael y canlyniadau a ddymunir. Gallai hynny fod yn fwy allweddol eto, wrth i’r amgylchiadau economaidd roi rhagor o bwysau i gael y gwerth gorau o adnoddau cyfyngedig.

Bydd pawb sydd â diddordeb mewn lleihau niferoedd a difrifoldeb tanau damweiniol mewn cartrefi yn dymuno cael atebion yn y meysydd canlynol:

  • Pwy? Targedu – pwy sydd fwyaf mewn perygl/fwyaf agored i berygl?

  • Ble? Targedu – ble gallwn gyrraedd y bobl hyn, ac a oes rhai sy’n anos eu cyrraedd nag eraill?

  • Beth?Y gwaith ‘ymyrryd’ – beth sy’n mynd i weithio, ac a yw hyn yn wir ar gyfer pawb?

  • Sut? Ymyrriadau a negeseuon – iaith, arddull, y dull o’u cyflwyno, y sianelau cyfathrebu

  • Pryd? Pryd i gynnal yr ymyrriadau – er mwyn adlewyrchu blaenoriaethau’n seiliedig ar wahaniaethau cymharol mewn risg ymysg y boblogaeth

  • Pam?Pam fod rhai ymyrriadau’n fwy effeithiol nag eraill? Ni ellir ateb hyn yn llwyr heb gynnal gwerthusiad o bob un.
  • Nid oes gennym yr holl atebion i’r cwestiynau hyn – ond gall gwaith ymchwil gyfrannu llawer i’n dealltwriaeth o bob un o’r meysydd hyn.

    Chwilio

     

    Datganiad Hygyrchedd - Polisi Preifatrwydd (pdf) - Telerau Defnyddio'r Wefan (pdf) 
    Atal Tân Cymru (Ymddiriedolaeth Diogelwch Tân Cymunedol Cymru Cyf) Rhif Cofrestru Elusen 1100964 Cwmni Cyfyngedig trwy Warant yng Nghymru 4556865

    Valid CSS!