Ymchwil :: Ymchwil Atal TânYmchwil yn Atal TânFelly, mae’n un o amcanion allweddol Atal Tân i hyrwyddo arferion yn seiliedig ar dystiolaeth yn y gwaith atal tân a diogelwch tân yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy arwain a chynnal ymchwil sylfaenol, yn ogystal â thrwy ledaenu gwybodaeth am ymchwil berthnasol arall ym maes diogelwch tân, a hynny o Gymru, Gwledydd Prydain a thu hwnt. Yn ddiweddar, gyda phenodi Richard Hall i’r swydd ‘‘Cydlynydd Polisïau ac Ymchwil’, mae gallu Atal Tân ym maes ymchwil wedi ehangu. Ymunodd Richard â’r tîm ym mis Chwefror 2009, gan ddod â chryn dipyn o wybodaeth a phrofiad o ymchwil i’r sefydliad. Cyn dod atom ni, ei swydd ddiwethaf oedd fel Rheolwr Ymchwil i’r darparwr preifat mwyaf ym maes llety i fyfyrwyr. Mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru eisoes yn defnyddio eu dulliau eu hunain i dargedu eu hymyriadau diogelwch tân yn eu hardaloedd. Mae Atal Tân yn cefnogi hyn trwy gynnal ymchwil trwy Gymru i gyd, gan ein gosod mewn lle unigryw o allu rhoi persbectif Cymreig i waith ymchwil ym maes diogelwch tân. Mae tystiolaeth ymchwil ddiweddar wedi dangos yn eglur pa fanteision y gellir eu cael o ganlyniad o gydweithio agosach rhwng y Gwasanaethau Tân ac Achub a'r mudiadau cymunedol sy'n gweithio ar gyfer/gyda'r bobl sydd fwyaf mewn perygl o dân. Bydd Atal Tân yn cynnal ymchwil i’r ffyrdd y gall y partneriaethau hyn fod fwyaf effeithiol, a phwy yw’r partneriaid gorau i gyrraedd y cymunedau sy’n agored i berygl a/neu sydd fwyaf anodd eu cyrraedd. Bydd Atal Tân yn canolbwyntio ar y math hwn o ymchwil, ac isod gellir gweld enghraifft o ymchwil yr ydym wedi ei wneud gyda'r 22 o Asiantaethau Gofal a Thrwsio. Timau Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol a Chymdeithasau Mind LleolCefndir a Throsolwg (Saesneg yn unig) Adroddiad Diogelwch Tân gan Atal Tân Cymru
|