Firebrake Wales Home Page

Deunyddiau ategol

 Deunyddiau ategol ar gyfer
sefydliadau a’u cleientiaid

Cliciwch yma

Cylchlythyr

Cofrestrwch i dderbyn
ein cylchlythyr

Cliciwch yma

Croeso i Atal Tân Cymru

Elusen gofrestredig a chwmni cyfyngedig trwy warant a sefydlwyd yn 2002 yw Ymddiriedolaeth Diogelwch Tân Cymunedol Cymru (a adwaenir dan yr enw Atal Tân Cymru).

Ei genhadaeth yw gostwng nifer yr achosion o dân trwy godi ymwybyddiaeth o’r peryglon, darparu gwybodaeth am ddiogelwch, hyrwyddo ymchwil i ddiogelwch tân ac annog cydweithredu rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, a hynny er mwyn gwneud Cymru’n lle mwy diogel.

Mae gweithgarwch y sefydliad yn seiliedig ar y canlynol:

Ymarfer yn seiliedig ar Dystiolaeth - defnyddio ymchwil i dargedu’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o dân, y rhai mwyaf anodd eu cyrraedd trwy negeseuon diogelwch tân a’r rhai sydd fwyaf anodd dylanwadu arnynt, a hynny er mwyn annog agweddau ac ymddygiadau mwy diogel.  Mae’r elusen wedi ymrwymo i werthuso a dysgu o ganlyniad i’w holl weithgareddau, a hynny er mwyn gweld gwelliant parhaus o ran ymarfer a pherfformiad.

Dull Partneriaethol – sefydlu a datblygu partneriaethau â sefydliadau sy’n rhannu diddordeb mewn gwneud cymunedau’n fwy diogel.  Yn arbennig, mae’r elusen yn dwyn ynghyd ymarferwyr o’r Gwasanaethau Tân ac Achub, y rhai sy’n gyfrifol am ddatblygu polisïau atal tân yn Llywodraeth y Cynulliad, a sefydliadau sy’n ennyn cyfranogiad y cymunedau sydd fwyaf mewn perygl, y rhai mwyaf anodd eu cyrraedd, a’r rhai sydd fwyaf anodd dylanwadu arnynt.

Lawrlwytho 'Diogelwch Tân...gwneud y cysylltiad' (pdf, 414kb)
(mae copïau caled hefyd ar gael)
Lawrlwytho 'Ein gwaith' (pdf, 43kb)

Newyddion

19/07/10.
Cylchlythyr Atal Tân - Gorffennaf 2010
[Mwy]

24/06/10.
Elusen Diogelwch Tân Cymru mewn Cynhadledd Ewropeaidd
[Mwy]

10/02/10.
Cylchlythyr - Hydref 2009
[Mwy]

Chwilio

 

Accessibility Statement - Privacy Policy (pdf) - Terms of Use (pdf) - Data Protection Notice
Firebrake Wales (Wales Community Fire Safety Trust Ltd) Registered Charity Number 1100964 Company Limited by Guarantee 4556865

Valid CSS!